Cysylltu â ni
Cwynion ynglyn â chyflenwyr ynni
I gael help a chyngor ar sut i gwyno am eich bil neu'ch cyflenwr ynni, cliciwch ar y botwm isod.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth ddiduedd yn rhad ac am ddim sy'n cwmpasu amrywiaeth o faterion ar 0808 223 1133.
Ymholiadau cyffredinol
Rydym yn cael niferoedd mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser na'r arfer i ateb eich galwad neu ymateb i'ch e-bost. Mae'r atebion i lawer o gwestiynau cyffredin yn ein hadran gwybodaeth i ddefnyddwyr.
Os yw eich cyflenwad wedi cael ei ddatgysylltu neu os ydych heb gyflenwad, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs. Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
- Advice Direct Scotland ar 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
Os oes gennych ymholiad ynghylch polisïau neu swyddogaethau Ofgem, cysylltwch â ni ar consumeraffairs@ofgem.gov.uk, ar 020 7901 7295 neu gan ddefnyddio'r cyfeiriadau isod.
Os oes gennych ymholiad ynghylch cynllun amgylcheddol neu gymdeithasol a weinyddir gan Ofgem, cliciwch yma i gael gwybodaeth gyswllt.
Oriau agor y llinellau ffôn
Gallwn atal ein cysylltiad â chi os byddwch yn ymddwyn mewn ffordd afresymol sy'n peri risg i'n staff. Darllen ein polisi ymddygiad annerbyniol.
Os oes gennych gais i aelod o Ofgem siarad mewn digwyddiad, gwnewch gais am siaradwr. Rydym hefyd yn rhannu newyddion corfforaethol a chyngor cyffredinol i helpu defnyddwyr i gael y gorau o'u gwasanaethau ynni drwy ein tudalennau newyddion a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol: @Ofgem Twitter, @Ofgem Linkedin, @Ofgem facebook.
Sgamiau ynni
Weithiau, efallai y bydd sgamiwr yn ceisio cysylltu â chi drwy guro ar eich drws, eich ffonio, cysylltu â chi drwy'r cyfryngau cymdeithasol, e-bost, neges naid ar wefan, neu neges destun yn esgus bod o Ofgem. Er enghraifft, efallai y bydd yn awgrymu y dylech newid eich cyflenwr ynni neu ofyn am eich manylion banc.
Cadarnhewch a ydych wedi cael ei sgamio
Dyma rai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- ni fydd Ofgem byth yn gwerthu ynni i chi, yn gofyn am wybodaeth bersonol na'ch manylion banc personol nac yn dod i'ch eiddo
- os byddwch yn amau bod rhywun wedi cysylltu â chi yn esgus ei fod o Ofgem, gwrthodwch neu anwybyddwch y cyswllt
Os byddwch yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Dylech wneud y canlynol:
- cysylltu â'ch banc ar unwaith
- ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio ei ffurflen ar-lein
- rhoi gwybod am sgamiau rhyngrwyd ac achosion o we-rwydo drwy anfon negeseuon e-bost amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk
- ffonio 999 mewn argyfwng bob amser, os byddwch yn teimlo dan fygythiad neu'n anniogel
- dweud wrthym drwy e-bost consumeraffairs@ofgem.gov.uk neu drwy ffonio 020 7901 7295
Ein lleoliadau
Swyddfa Llundain
Ofgem
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Swyddfa Glasgow
Ofgem
Commonwealth House
32 Albion Street
Glasgow
G1 1LH
Swyddfa Cardiff
Ofgem
C/O HM Revenue & Customs
UK Government Hub Wales
Tŷ William Morgan
6-7 Central Square
Cardiff
CF10 1EP
Cyfeiriwch bob gohebiaeth bost i'n swyddfa yn Llundain.